Mae Caerdydd wedi ennill eu chweched gêm o'r bron ar ôl curo Birmingham o dair gôl i un yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn. Roedd hi'n hanner cyntaf cyfforddus i'r Adar Gleision diolch i goliau Nathaniel Mendez-Laing, Craig Bryson a Callum Paterson. Fe gaeodd Craig Gardner y bwlch i 3-1 wedi 55 o funudau, diolch i gic o'r smotyn. Ond mae trallodion Birmingham yn parhau, wrth iddyn nhw golli eu wythfed gêm o'r bron, a'r gynta o dan eu rheolwr newydd, a chyn-reolwr Abertawe, Gary Monk. Felly mae Caerdydd yn parhau yn yr ail safle yn y Bencampwriaeth, dri phwynt yn unig oddi ar y tim ar y brig, sef Wolverhampton Wonderers. Caerdydd: Etheridge, Peltier, Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Paterson,