Hebei China Fortune yn penodi Chris Coleman yn rheolwr
Mae Chris Coleman wedi cael ei benodi'n rheolwr ar un o glybiau'r brif adran yn China. Cyhoeddodd Hebei China Fortune ddydd Sul y byddai'r Cymro'n cymryd yr awenau yn dilyn ymadawiad Manuel Pellegrini. Ar hyn o bryd mae'r clwb yn 10fed yn y gynghrair o 16 tîm, ac mae'r garfan yn cynnwys sêr megis yr Archentwyr Javier Mascherano ac Ezequiel Lavezzi. Cafodd Coleman, 48, ei ddiswyddo gan Sunderland ym mis Ebrill wedi i'r clwb o ogledd-ddwyrain Lloegr ddisgyn o'r Bencampwriaeth i Adran Un. Bu'n rheolwr ar Gymru rhwng 2012 a 2017, gan lwyddo i arwain y tîm i rownd gynderfynol Euro 2016. Ond fe adawodd ei swydd gyda'r tîm cenedlaethol wedi iddyn nhw fethu â chyrraedd Cwpan y Byd 2018, gyda Ryan Giggs